Gweithdai
Mae Canolfan y Felin Uchaf wedi ei leoli yng Nghalon ardal bywiog, iaith Cymraeg, gyda chyfoeth o arferion a thraddodiadau lleol, ac arfordir hynod o hardd. Mae themau’r gweithdai yn ceisio adlewyrchu Awen arbennig Pen Llyn a chadw doniau traddodiadol yn fyw yn y gymuned.
‘Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai a chyrsiau gyda’r strwythr: hyfforddi sgiliau i wirfoddolwyr; cyrsiau taladwy gyda tiwtoriaid; gweithgareddau wedi eu creu’n arbennig ar gyfer ysgolion neu grwpiau, a chyfleuon i weithio neu gwirfoddoli am gyfnod penodol, byr neu hir. Cysylltwch a ni os gwelwch yn dda, i weld syt y medrwn ateb eich gofynnion.
Mae ein cleientiau yn cynnwys; ysgolion cynradd ac uwchradd, myfyrwyr
y colegau a phrifysgolion, ysgolion Steiner rhyngwladol, defnyddwyr y wasanaeth
(probation), sefydliadau cymunedol lleol a chlybiau ffermwyr ifync, Sgwad – clwb ysgrifennwyr ifync Cymraeg, U.N.A. - cyfnewid gwirfoddolwyr rhyngwladol a ‘Horizons’ - lleoliadau gwaith i ieuenctid rhyngwladol.
Themau gweithdai yn cynnwys;
- Sgiliau adeiladu cynnaladwy, fel- adeiladu cloddiau ‘cob a phridd’,
gwaith carreg, toi (gyda rhedyn), Creu fframiau
pren derw
gwyrdd,
adeiladu’n defnyddio calch a adeiladu gyda pynnau gwellt.
- Gwaith coed gwyrdd a gwneud dodrefn gwledig traddodiadol e.e. gwneud ‘cadeiriau
ffon’ Cymreig a giatiau gyda derw hollt .
- Garddio Organig / Bio-dynamig.
- Adrodd Stori; o Mabinogi Cymreig/Celtaidd i straeon Arwraidd o wlad
Groeg, straeon lleol ar lafar a gwyliau cerddorol – dydd a fin nos.
- Iaith, Diwylliant a Thraddodiadau Cymraeg.
- Cerflunio mewn Clai a Carreg.
- Celfyddyd Amgylchfydol.
- Gwylio Bywyd Gwyllt – i naturiaethwyr ifync.
‘Rydym yn rhagweld adeiladu gweithdai newydd er mwyn darparu cyrsiau sef;
- Gwaith Gof (2010 ymlaen)
- Adeiladu Cychod Pren traddodiadol (2010 ymlaen)
Yn ystod y Rhan Cychwynol o Ddatblygu, yn parhau 3-5 mlynedd, mae’r adeiladau sy wedi eu cynllunio at bwrpas penodol yn cael eu adeiladu gan wirfoddolwyr, a rhai o dan hyfforddiant, fel cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd. Ar ol gorffen yr adeiladau hyn byddwn yn darparu fwy o gyrsiau Diwylliannol a Chelfyddgar.
Mae cyrsiau sgiliau yn parhau - rhwng 3 a 5 diwrnod, cyrsiau penwythnos, neu cyrsiau fin-nos yn parhau dros 10 neu 20 wythnos. ‘Rydym
yn cynnig cyrsiau dyddiol i grwpiau fel ysgolion, colegau, defnyddwyr y wasanaeth
probation a grwpiau cymunedol lleol.
Gwelwch
tudalenau CYRSIAU a NEWYDDION am
y sefyllfa diweddaraf
neu cysylltwch
a ni ar e-bost:felinuchaf@tiscali.co.uk
neu ffôn- 01758 780280.
|