Hyfforddiant Sgiliau , Ein Amgylchfyd, Diwylliant
a Chymdeithas
Prosiect Y Felin Uchaf
- Menter Gweledigaethol Cymdeithasol
Apel Felin Uchaf.....
..trwy helpu i brynu eiddo Canolfan Felin Uchaf byddwch yn sicrhau dyfodol disglair ir fenter fel y bydd genhedlaethau i ddod hefyd yn dysgu'r sgiliau i werthfawrogi a gwarchod ein amgylchedd a'n treftadaeth.
Gallwch gefnogi 'r ymgyrch drwy:
- anfon rhodd ar-lein yma
- anfon rhodd neu addewid tuag at yr apel i godi £270,000 i brynu'r eiddo arbenig hwn ar gyfer y gymuned a sicrhau ein dyfodol
....unwaith ac am byth.
"Cyd-ddyheu" Dyna'r geiriau cyntaf sy'n dod i'm meddwl i wrth gofio am yr holl brofiadau a gweithgareddau sy'n digwydd yn Felin Uchaf. Mae'r ganolfan yn groesawgar, yn annog pawb i gyfrannu ac yn amlygu doniau pawb sydd ynglyn â hi. Braint a phleser ydy cefnogi ymdrech ddiweddaraf Canolfan Felin Uchaf i brynu'r tir a sicrhau dyfodol y fenter. Mae'r egni a'r brwdfrydedd a'r ysbryd creadigol sydd yn y ganolfan yn haeddu'r cyfle yma i ffynnu a datblygu.....
Gerallt Pennant
yr hyn sy'n digwydd yn Felin Uchaf...
Rydym yn trawsnewid ffermdy Cymreig traddodiadol a'r tir o'i amgylch yn Ganolfan Cymunedol bywiog. Mae'r Eco-ganolfan wedi ei leoli yng nghanol, sef yng nghalon, Penrhyn Llyn, yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae hon yn ardal arbennig o hardd gyda chyfoeth o hanes diwylliedig a chymunedau iaith cyntaf Cymraeg.
Mae'r Ganolfan yn darparu'r ffocws a'r adnoddau i bobol o bob oedran a chefndir diwylliedig i ddod gyda'i gilydd i ddysgu a rhannu profiadon - drwy gwaith adeiladu a chadwraeth, gweithredau celfyddydol a diwylliedig. Mae yma gyfleu i ddysgu sgiliau newydd a chyfrannu at gymunedau a diwylliant rhan arbennig iawn o Gymru.
'R'ydym yn awr yn;
-
Darparu hyfforddiant a chyrsiau yn sgiliau ymarferol
cefn gwlad, adeiladu ecolegol ac amaethyddiaeth cynaladwy. 'R'ydym yn
cynnig cyrsiau preswyl; byr
ac wythnos-o- hyd, gwyliau gweithgar, a chyfleu i wirfoddoli, i'r rhai
lleol a pobl o wledydd dramor.
- Plannu coedwigoedd a gwrychoedd newydd ac ailgreu, ail-seilio gwedd
traddodiadol y tir.
- Cadw a ehangu'r cynefinoedd bioamrywiol ar dir y fferm
ac yn ehangach, er lles Bywyd Gwyllt yr ardal.
- Ail fywiogi traddodiad lafar y gymuned o adrodd stori, chwarae cerddoriaeth a chanu.
- Darparu adnoddau astudio er mwyn ysgolion a cholegau yng Ngwynedd, ar pynciau fel Technoleg Hynafol,Treftadaeth Celtig, Defnydd tir Cynaladwy a Dulliau Adeiladu Traddodiadol.
- Cynnal gweithredau a digwyddiadau yn y gymuned er mwyn nodi a dathlu Gwyliau'r Fwyddyn.
- Tyfy ein bwyd ar fferm organig/bio-dynamig o 23 o erwau, a darparu y gymuned lleol gyda llysiau iachus drwy'r 'scema 'bocs' a'r siop fferm.
- Sefydlu Fferyllfa Wyllt a gardd llysiau cymunedol i ailfywiogi'r arfer o dyfu a defnyddio llysiau lleol er mwyn iechyd.
- Darparu cefnogaeth ac hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddwyr y gwasanaeth prawf, er engraifft grwpiau troseddwyr ifanc, a cleientiaid y gwasanaeth (probation) ar sgemau gwasanaeth cymunedol.
- Darparu cefnogaeth gwerthfawr i Athrawon a hybu ffurfiau dysgiedig holistig yn ol canllawiau addysgiadol Rudolf Steiner.
- Darparu dyddiau gwirfoddoli pob wythnos, gwersyllau gwirfoddolol rhyngwladol a cyfleuon profiad gwaith i Fyfyrwyr.
- Mae llawer ffordd i chi ymuno gyda'r Fenter, o cymeryd rhan yn y cyrsiau sgiliau neu gwirfoddoli neu drwy helpu cynnal yr Elusen yn ariannol, a bod yn aelod. Edrychwch yn ofalus ar ein cynnigion ar y wefan ac yn sicr fe fydd rhywbeth wrth eich bodd!.
|